Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9
Gorffennaf 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
Dogfennau Ategol:
Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) – Memorandwm Esboniadol
(45 munud)
(45 munud)
(45 munud)
(15 munud)
NDM7114 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2019.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM7113 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/nondomesticratinglists.html
Dogfen Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
(30 munud)
NDM7096 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 18 Mehefin 2019.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfen Ategol:
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2019